Beth yw PSBA a’I waith?
Mae rhaglen PSBA (Public Sector Broadband Aggregation) yn darparu cysylltedd diogel a dibynadwy ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad.
Lansiwyd yn 2007, mae PSBA yn cysylltu cyrff drwy rwydwaith ardal eang (Wide Area Network – (WAN). Erbyn heddiw, mae’n cefnogi dros 100 corff sector cyhoeddus a bron 5,000 safle ar draws y wlad yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff GIG Cymru, gwasanaethau brys, darparwyr addysg, cyrff tai cymdeithasol ac adrannau Llywodraeth Cymru.
Rheolir gan Lywodraeth Cymru a gweithredir gan BT, mae PSBA yn darparu cysylltedd cadarn, cost effeithiol sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Wrth dderbyn gwasanaethau ar y cyd drwy un contract cenedlaethol, mae PSBA yn helpu i ddarparu seilwaith digidol diogel, a gwasanaethau cyson a fforddiadwy. O ganlyniad, mae cyrff yn gallu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau ar draws y wlad.
Partneriaeth a llywodraethu
Rheolir PSBA gan Lywodraeth Cymru a gweithredir gan BT.
Llywodraeth Cymru sy’n arolygu’r rhaglen yn strategol, gan sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a darparu gwerth da am yr arian dros yr hir dymor ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.
BT sy’n darparu seilwaith y rhwydwaith, yr arbenigedd technegol a’r adnoddau i gynnal gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.
Ar y cyd, mae’r bartneriaeth yn cefnogi cysylltedd a gwasanaethau dibynadwy ar draws y sector cyhoeddus.
Pwysigrwydd strategol cenedlaethol
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar seilwaith digidol dibynadwy. A gwasanaethau iechyd, darparwyr addysg ac awdurdodau lleol yn dibynnu ar rwydweithiau diogel er gweithio’n effeithiol.
Bydd PSBA yn cefnogi’r gwasanaethau hyn wrth ddarparu rhwydwaith cysylltedd cenedlaethol, gyda’r rhaglen yn cysylltu cyrff drwy seilwaith cyffredin, gan gryfhau dibynadwyedd a hwyluso cydweithredu ar draws y wlad.
Erbyn hyn, mae PSBA yn cysylltu dros 640 meddygfa, gan helpu i foderneiddio a gwella seilwaith digidol ym meysydd gofal sylfaenol.
Ar draws y wlad, mae cyrff yn dibynnu ar gysylltedd PSBA i gefnogi cyfathrebu, gwasanaethau digidol a gwaith beunyddiol.
Gwasanaethau PSBA
Mae PSBA yn darparu amrediad o wasanaethau cysylltedd a rhwydwaith i gefnogi cyrff ar draws y sector cyhoeddus.
Yn cynnwys:
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith
Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.
Cymorth rhwydwaith
Cymorth technegol a strategol er helpu cyrff i gynllunio, datblygu a rheoli seilwaith rhwydwaith.
Gwasanaethau proffesiynol
Gwasanaeth ar gyfer pwy? Ein gwasanaethau yn helpu cyrff i gyflwyno atebion rhwydwaith ac ymgorffori gwasanaethau PSBA o fewn eu seilwaith. Buddion allweddol Nodweddion allweddol Mwy o wybodaeth Gwasanaethau cysylltiedig
Mwy am wasanaethau PSBA a sut mae’r rhaglen yn cefnogi sectorau ar draws y wlad.
Gwaith PSBA
Rhwydwaith cysylltedd cenedlaethol
Mae PSBA yn cysylltu cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad drwy rwydwaith diogel a chadarn.
Mae’r rhaglen yn darparu cysylltedd WAN er cysylltu cyrff, swyddfeydd a safleoedd ar draws y wlad. O ganlyniad, mae cyrff yn gallu cysylltu â systemau, rhannu gwybodaeth a chydweithredu ar draws sawl lleoliad.
Erbyn hyn mae’n cefnogi dros 100 corff sector cyhoeddus a bron 5,000 safle, gan ddarparu cysylltedd dibynadwy ar gyfer amrediad eang o wasanaethau cyhoeddus.
Diogelwch, cadernid a dibynadwyedd
Mae diogelwch a chadernid yn elfennau canolog o rwydwaith PSBA.
Mae’r rhaglen yn darparu cysylltedd diogel gyda chymorth muriau gwarchod, hidlo cynnwys a mesurau diogelu eraill, gan helpu i warchod systemau a data sector cyhoeddus.
Mae SLAs (Service Level Agreements) yn diffinio disgwyliadau ac yn helpu i gynnal gwasanaethau cyson ar draws y rhaglen.
Cysylltu cyrff â PSBA
Mae cyrff sector cyhoeddus yn gallu defnyddio gwasanaethau PSBA drwy fframwaith llywodraethu a chyflenwi’r rhaglen.
Yn benodol, bydd cyrff yn cydweithio â thîm PSBA er mwyn deall y gofynion cysylltedd a nodi gwasanaethau addas. Yna, bydd y rhaglen yn cefnogi cyrff drwy gymalau cynllunio, ymuno a gweithredu.
Ar ôl cysylltu, bydd cyrff yn elwa o gysylltedd cenedlaethol diogel sy’n cefnogi gwasanaethau cyfathrebu, cydweithredu a digidol.
Dysgu mwy am wasanaethau PSBA neu weld sut mae’r rhaglen yn cefnogi sectorau ar draws y wlad.
Pwy sy’n gallu ymuno
Cymwysterau
Mae PSBA yn cefnogi amrediad eang o gyrff ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Cyarff cymwys yn cynnwys:
Buddion o ymuno â PSBA
Bydd cyrff sy’n ymuno â rhaglen PSBA yn derbyn mynediad i rwydwaith cysylltedd cenedlaethol dibynadwy a ddyfeisiwyd er diwallu anghenion sector cyhoeddus Cymru.
Buddion allweddol yn cynnwys:
Camau nesaf
Dylai cyrff sydd â diddordeb mewn ymuno â PSBA gysylltu â’r tîm i drafod eu gofynion a’r gwasanaethau yn y catalog.
Bydd y tîm yn gallu rhoi cyngor ar gymwysterau, prosesau cyflwyno ac opsiynau gwasanaeth.
Cysylltwch â’r tîm i drafod ymuno â’r rhaglen, gwasanaethau PSBA a sut mae’n cefnogi sectorau ar draws y wlad.
Pam sefydlu PSBA?
Cefnogi cysylltedd gwasanaethau cyhoeddus dibynadwy
Mae cyrff sector cyhoeddus yn dibynnu ar seilwaith digidol dibynadwy er mwyn darparu gwasanaethau. Ond, yn hanesyddol roedd llawer o gyrff yn rheoli contractau a rhwydweithiau cysylltedd ar wahân, gan arwain at systemau cymhleth, gwasanaethau anghyson a rhwystrau rhag cydweithredu.
Sefydlwyd rhaglen PSBA er mwyn taclo’r heriau hynny wrth ddarparu rhwydwaith cysylltedd cenedlaethol ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad. Mae cydweithio ar yr un platfform yn helpu i symleiddio a chysoni trefniadau, a chefnogi cydweithredu rhwng cyrff a sectorau.
Wrth agregu’r galw ar draws cyrff gwahanol, mae PSBA yn darparu cysylltedd diogel, cadarn a chost effeithiol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Hywluso cydweithredu & trawsnewid digidol
Mae llawer o gyrff cyhoeddus yn dibynnu ar gydweithredu rhwng cyrff. Yn aml, bydd darparwyr gofal iechyd a gwasanaethau brys angen cysylltu â systemau neu rannu gwybodaeth ar draws amryw leoliadau.
Bydd PSBA yn cefnogi hynny wrth gysylltu cyrff drwy rwydwaith cenedlaethol diogel. O ganlyniad, bydd staff yn gallu cysylltu â systemau ar draws safleoedd a chyrff, a chydweithio’n fwy effeithiol o’r herwydd.
Mae rhannu’r un seilwaith hefyd yn cefnogi trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan hwyluso mabwysiadu gwasanaethau digidol, rhannu gwybodaeth yn ddiogel a moderneiddio gwasanaethau.
Tystiolaeth o werth & canlyniadau
Mae cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad yn dibynnu ar gysylltedd PSBA I gefnogi gwasanaethau hanfodol, yn cynnwys:
- Cysylltu dros 640 meddygfa, gan helpu darparwyr gofal iechyd i ddefnyddio rhwydweithiau diogel a systemau digidol
- Cefnogi cysylltedd dibynadwy ar gyfer gwasanaethau brys
- Hwyluso dysgu digidol mewn ysgolion a safleoedd addysg
- Cefnogi cyfathrebu diogel ar draws cyrff llywodraethol.
Prifysgol Aberystwyth wedi defnyddio cysylltedd PSBA i ddarparu Wi-Fi cyhoeddus ar y campws, gan gynnig cysylltiad rhyngrwyd i’r myfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Enghreifftiau
Ysgol Borderbrook
Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn
Contact Us
If your organisation is interested in joining PSBA or learning more about available services, please e-mail PSBA.new.connection.enquiries@bt.com and a member of our dedicated team will be in touch.