CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Beth yw PSBA?
Mae rhaglen PSBA (Public Sector Broadband Aggregation) yn darparu gwasanaethau cysylltedd diogel a dibynadwy ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad.
Rheolir gan Lywodraeth Cymru a gweithredir gan BT. Mae’n cysylltu cyrff sy’n cynnwys awdurdodau lleol, cyrff GIG Cymru, gwasanaethau brys, darparwyr addysg, cyrff tai cymdeithasol, darparwyr gofal ac adrannau Llywodraeth Cymru. Wrth gysylltu â gwasanaethau drwy un contract cenedlaethol, mae PSBA yn helpu i ddarparu seilwaith digidol diogel, a gwasanaethau cyson a fforddiadwy.
O ganlyniad, mae cyrff yn gallu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol wrth ddibynnu ar gysylltedd cadarn sy’n cefnogi gwaith beunyddiol, cydweithredu a thrawsnewid digidol.
Cyfrif PSBA gennych?
Arwyddwch yma i weld eich dangosfwrdd, rhestr gwasanaethau, cysylltu ag adnoddau poblogaidd a gweld y newyddion diweddaraf.
Buddion allweddol
Gwasanaethau
PSBA yn darparu amrediad o wasanaethau cysylltedd a rhwydwaith sy’n cefnogi gwasanaethau cysylltu â chydweithredu digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith
Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.
Cymorth rhwydwaith
Cymorth technegol a strategol er helpu cyrff i gynllunio, datblygu a rheoli seilwaith rhwydwaith.
Gwasanaethau proffesiynol
Gwasanaeth ar gyfer pwy? Ein gwasanaethau yn helpu cyrff i gyflwyno atebion rhwydwaith ac ymgorffori gwasanaethau PSBA o fewn eu seilwaith. Buddion allweddol Nodweddion allweddol Mwy o wybodaeth Gwasanaethau cysylltiedig
Sectorau
Mae PSBA yn cefnogi cyrff ar draws sector cyhoeddus y wlad. Bydd pob sector yn dibynnu ar gysylltedd diogel a dibynadwy er darparu gwasanaethau hanfodol a chefnogi gweithio digidol.
Cynghorau
Cefnogi awdurdodau lleol gyda chysylltedd dibynadwy ar gyfer gwasanaethau, staff a seilwaith cymunedol.
GIG Cymru a byrddau iechyd
Darparu cysylltedd cadarn sy’n cefnogi systemau gofal iechyd, gwasanaethau clinigol a chofnodion cleifion.
Gwasanaethau brys
Rhwydweithiau dibynadwy yn helpu gwasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans i warchod cymunedau ar draws y wlad.
Addysg
Cysylltedd digidol yn cefnogi gwasanaethau addysg, ymchwil a dysgu digidol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Tai cymdeithasol
Cysylltedd yn cefnogi gwasanaethau tai, systemau digidol a chyfathrebu gyda thenantiaid a chymunedau.
Gofal a gofal cymdeithasol
Seilwaith digidol cadarn yn cefnogi darparwyr gofal, cydlynu gwasanaethau a rhannu gwybodaeth.
Llywodraeth Cymru
Cysyltedd yn cefnogi adrannau cenedlaethol, cydweithredu a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Enghreifftiau
Ysgol Borderbrook
Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn
Pam dewis PSBA?
Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar seilwaith digidol dibynadwy, gyda PSBA yn darparu rhaglen genedlaethol sy’n galluogi cyrff sector cyhoeddus i elwa o gysylltedd diogel, cadarn a fforddiadwy.
Rheolir gan Lywodraeth Cymru a gweithredir gan BT, mae rhaglen PSBA yn darparu rhwydwaith dibynadwy i gefnogi cyrff, yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff GIG Cymru, gwasanaethau brys a darparwyr addysg.
Ar draws y wlad, mae cyrff yn dibynnu ar gysylltedd PSBA i gefnogi gwasanaethau hanfodol, o ofal iechyd ac addysg i wasanaethau brys a gwaith awdurdodau lleol.
Contact Us
If your organisation is interested in joining PSBA or learning more about available services, please e-mail PSBA.new.connection.enquiries@bt.com and a member of our dedicated team will be in touch.